Ruth a James fel Nessa a Smithy
Mae Ruth Jones, cyd awdur ac un o sêr y gyfres deledu boblogaidd Gavin and Stacey,  wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar droed i gynhyrchu cyfres arall o’r sioe yn fuan.

Mae Ruth yn brysur ar hyn o bryd yn ffilmio ail gyfres o’r ddrama Stella ar gyfer Sky. Mae hefyd wedi arwyddo cytundeb i wneud trydedd gyfres.

Yn siarad yng Ngŵyl Deledu Ryngwladol Caeredin dywedodd Ruth Jones fod adroddiadau fod y gyfres Gavin and Stacey yn dychwelyd wedi dechrau oherwydd bod ei chyd awdur James Corden wedi cael ei gamddyfynnu.

“Mae e’n brysur iawn, dwi’n brysur iawn,” meddai.

Dywedodd eu bod hi wedi bod yn ystyried sgwennu ar gyfer y theatr ond bod hynny yn ei dychryn, “efallai oherwydd nad yw’n gyfrwng dwi’n gyfarwydd ag e fel actores.”