Iain Duncan Smith
Fydd byw ar gefn y system les ddim yn ddewis i bobol yn y dyfodol, yn ôl y Llywodraeth yn Llundain.
Fe fydd pobol yn cael eu cymell i weithio yn hytrach na derbyn budd-daliadau, meddai’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau cyn cyhoeddi mesur newydd i ddiwygio’r system.
Y prif newid fydd creu un budd-dal cyffredinol, yn hytrach na’r amrywiaeth o daliadau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Fydd pobol dramor ddim yn cael cymryd swyddi tra bod “miliynau” o bobol gwledydd Prydain yn hawlio budd-daliadau, meddai Iain Duncan Smith.
‘Elwa o weithio’
Fe fydd y cynigion newydd yn ceisio sicrhau bod pobol yn elwa o weithio gyda rhai sy’n gwrthod cymryd gwaith yn colli budd-daliadau.
Fe fydd cosbau llymach hefyd yn wynebu pobol sy’n twyllo’r system fudd-daliadau.
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud mai dyma’r newid mwya’ yn y system les ers trigain mlynedd.
Taclo’r ‘nodyn salwch’
Fe fydd David Cameron hefyd yn cyhoeddi camre i daclo’r diwylliant “nodyn salwch” – gan ddweud bod 300,000 o bobol yn gadael gwaith bob blwyddyn er mwyn hawlio budd-daliadau salwch.
Fe fydd Cyfarwyddwr Iechyd a Gwaith y Llywodraeth Carol Black a David Frost o Siambrau Masnach Prydain yn cynnal adolygiad o’r broblem.