Ni fydd rheolau newydd yn rhwystro mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sy’n ennill dros £150,000 rhag setlo ym Mhrydain.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cyflwyno’r rheolau newydd er mwyn lleihau nifer y mewnfudwyr bob blwyddyn o tua 200,000 i dan 100,000.

Roedd pryder yn y byd busnes y byddai’r uchafswm blynyddol yn atal pobol sydd â sgiliau angenrheidiol rhag mewnfudo i Brydain.

Dywedodd y Swyddfa Gartref mai nod y newid yw gwneud yn siŵr na fydd y rheolau newydd yn effeithio ar y “bobol orau a mwyaf disglair”.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i wyddonwyr, fferyllwyr, biocemegwyr, ffisegwyr a daearegwyr – yn ogystal ag unigolion sy’n meddu ar arbenigedd arall sy’n brin ym Mhrydain.

Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, fod yn rhaid i Brydain “ddenu’r bobl orau a mwyaf disglair er mwyn llenwi bylchau” ond na ddylid gwneud hynny ar “draul y gweithwyr sydd yma’n barod”.

Dim ond ymgeiswyr newydd fydd yn gallu cymryd mantais o’r rheolau ac nid pobl sydd eisoes yn byw ym Mhrydain, meddai.

Mynnodd mai dim ond lleiafrif y darpar-fewnfudwyr fyddai’n cael cymryd mantais o’r rheolau newydd a’u bod nhw wrthi yn “asesu’r galw”.

Ychwanegodd y byddai’n rhaid i fewnfudwyr sydd eisiau aros ym Mhrydain ddangos nad oes ganddyn nhw record droseddol.

Nod y cynllun fydd helpu i’r Llywodraeth leihau nifer  y gweithwyr sy’n dod i Brydain, meddai.