William Hague
Mae William Hague wedi ymosod yn ffyrnig ar y system AV – y bleidlais amgen – heddiw, gan ddweud y bydd ei blaid yn ymgyrch yn erbyn pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar 5 Mai.

Bydd y refferendwm, a fydd yn cael ei gynnal yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad, yn penderfynu a fydd y wlad yn rhoi’r gorau i’r system ‘cyntaf heibio’r postyn’.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor wrth aelodau ei blaid heddiw fod y system bleidlais amgen yn “annheg” a “chostus”.

Byddai’n costio miliynau i newid y system ac yn caniatáu i bleidiau ymylol gan gynnwys y BNP ennill seddi yn San Steffan, meddai.

“Dyw hyd yn oed y bleidlais ‘Ie’ ddim eisiau’r bleidlais amgen – maen nhw’n ei ystyried yn gam tuag at hyd yn oed mwy o ddiwygiadau,” meddai William Hague.

“Gyda’n gilydd fe wnawn ni ennill y refferendwm ac achub ein system bleidleisio.”

‘Dim ffraeo’

Daw ei ymyrraeth ar ôl i’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ddweud y dylai gwleidyddion gadw draw o’r ddadl.

Dywedodd mai pwynt refferendwm oedd “cymryd y penderfyniad allan o ddwylo gwleidyddion”.

“Dydw i ddim am dreulio amser yn ffraeo â gwleidyddion eraill – mae’n gyfle i’r bobol gael dweud eu dweud.”

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, eisoes wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu’r system bleidlais amgen, ond ni fydd yn cymryd rhan flaenllaw yn yr ymgyrch.

Ychwanegodd Nick Clegg ei fod o a David Cameron yn “anghytuno’n llwyr ond mewn modd agored a gwâr”.

“Weithiau rhaid cytuno i anghytuno,” meddai.