Y Senedd yn San Steffan
Fe fydd rhai o Aelodau Seneddol Cymru’n gorfod dechrau ar frwydr am eu heinioes wleidyddol ar ôl pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Y broblem yw nad ydyn nhw’n gwybod eto pwy sydd mewn peryg wrth i ddeddf newydd gael ei phasio yn torri nifer seddi seneddol Cymru o 40 i 30.
Mae disgwyl y bydd ASau’n pleidleisio heno o blaid Mesur sy’n creu seddi o tua’r un maint ar draws gwledydd Prydain ac yn trefnu refferendwm am ddull newydd 1,2,3 o bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.
Er bod Tŷ’r Arglwyddi wedi ceisio newid rhai o’r darpariaethau, a’r ASau wedi dadwneud hynny, mae disgwyl y bydd y frwydr hir yn dod i ben heddiw, a hynny jyst mewn pryd ar gyfer trefnu’r refferendwm ar 5 Mai.
Yr effaith
Mae’n golygu y bydd pob sedd yng Nghymru’n gorfod bod yn gymharol agos at gynnwys 70,000 o bleidleiswyr – llawer uwch na’r cyfartaledd ar hyn o bryd.
Mae’n golygu y bydd rhaid newid y ffiniau’n sylweddol ar draws Cymru ac fe fydd ASau presennol o’r un blaid weithiau’n gorfod ymladd yn erbyn ei gilydd i weld pwy sy’n sefyll yn y seddi newydd.
Fe fydd y newid hefyd yn cymhlethu’r drefn wleidyddol, gan y bydd etholaethau Tŷ’r Cyffredin wedyn yn wahanol i etholaethau’r Cynulliad.
Y cefndir
Roedd y frwydr tros y Mesur yn un hir a chaled, gyda Thŷ’r Arglwyddi’n cynnal sesiynau trwy’r nos wrth i aelodau Llafur geisio’i rwystro.
Roedden nhw’n gwrthwynebu cyplysu’r newid seddi a’r refferendwm mewn un mesur ac yn erbyn rhai o’r darpariaethau manwl.
Mae’r symudiad at ddull pleidleisio AV – lle mae etholwyr yn rhoi ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3 – yn cael ei ystyried yn un o ofynion allweddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn y glymblaid yn Llundain.
Trwy wledydd Prydain, mae’n golygu gostwng nifer yr ASau o 650 i 600.