Llong danfor Trident
Fe fydd cwmni preifat yn cymryd y cyfrifoldeb o edrych ar ôl arfau niwclear y Deyrnas Unedig, sy’n cael eu cadw yn yr Alban.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi arwyddo cytundeb 15 mlynedd gydag ABL Alliance i amddiffyn arfau niwclear Trident yng ngorsaf forol Clyde.

Fe fydd 149 o swyddi o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael eu trosglwyddo i’r cwmni.

Mae ABL Alliance yn cynnwys cwmnioedd AWE plc, Babcock a Lockheed Martin UK Strategic Systems.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Mai 2011 eu bod nhw’n bwriadu cyflogi rhagor o gwmnïoedd yn y sector breifat i wneud rhywfaint o’u gwaith.

“Mae’r diogelwch yng ngorsaf forol Clyde yn wych ac rydyn ni’n benderfynol bod hynny’n parhau,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Fe fydd y safle yn parhau yn safle niwclear awdurdodedig, ac yn cael ei reoli gan y Rheolwr Diogelwch Niwclear, y Swyddfa Rheoli Niwclear a chyrff rheoleiddio eraill.”

Daw’r trefniadau newydd i rym ym mis Ionawr 2013.