Y Ddinas yn Llundain
Fe fydd rhagor o bwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog wrth i arbenigwyr ddarogan cynnydd pellach mewn chwyddiant.

Ar ôl i’r gyfradd godi i 3.7% ym mis Rhagfyr, mae arbenigwyr yn disgwyl y bydd y ffigyrau heddiw’n cyrraedd 4.1% ar gyfer mis Ionawr.

Yn ogystal â’r ffaith fod Treth ar Werth wedi codi o 17.5% i 20% ddechrau Ionawr, mae costau bwyd hefyd wedi codi.

Mae disgwyl y gallai rhagor o gynnydd mewn chwyddiant roi pwysau ar reolwr Banc Lloegr Mervyn King a Phwyllgor Polisi Ariannol y Banc i ystyried codi  cyfraddau llog yn uwch na’r 0.5% ar hyn o bryd.

Chwyddiant v adfywiad?

Y gred yw y byddai hynny’n help i reoli chwyddiant trwy oeri ychydig ar yr economi, ond fe fydd rhai hefyd yn ei weld yn fygythiad i’r gobaith am adfywiad.

Fe fydd rhaid i Mervyn King ysgrifennu at y  Canghellor, George Osborne, i egluro pam fod chwyddiant 1% yn uwch na tharged y Llywodraeth o 2% am dri mis yn olynol.

Mae rhai arbenigwyr yn credu bod y ffigyrau hyn yn profi pa mor fregus yw’r economi ar hyn o bryd – fe grebachodd ychydig yn y chwarter diwetha’.