Un o awyrennau'r Llu Awyr
Fe fydd 100 o beilotiaid dan hyfforddiant yn cael clywed heddiw eu bod yn colli’u swyddi, yn ôl adroddiad papur newydd.

Fe fydd un o benaethiaid y Llu Awyr yn ymweld â thair canolfan hyfforddi’r gwasanaeth i dorri’r newydd, meddai’r Daily Telegraph.

Maen nhw hefyd yn awgrymu y bydd y penderfyniad yn golygu anghofio am y £300 miliwn y mae wedi ei gostio i hyfforddi’r peilotiaid.

Yn ôl yr adroddiad, fe fydd y 100 yn cynnwys 20 o beilotiaid awyrennau cyflym, 30 o beilotiaid hofrenyddion a 50 o beilotiaid awyrennau cludo.

Maes awyr Y Fali yn Ynys Môn yw un o ganolfannau hyfforddi’r gwasanaeth.