Y Canghellor, George Osborne
Mae dau o bob tri pleidleisiwr yn credu bod toriadau Llywodraeth San Steffan yn annheg, yn ôl pôl piniwn newydd.

Yn ôl y pôl piniwn ar ran papur newydd The Independent on Sunday a’r Sunday Mirror mae 63% yn credu y bydd y toriadau yn effeithio fwyaf ar y cartrefi tlotaf.

Roedd 57% yn credu bod y Llywodraeth yn torri gormod ac yn rhy gyflym.

Yn ogystal â hynny roedd 69% yn credu bod mesurau llywodraeth y glymblaid yn San Steffan yn mynd i’w gwneud nhw’n dlotach.

Daw’r arolwg wrth i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, rybuddio nad ydi’r dosbarth canol wedi deall eto pa mor boenus fydd y toriadau.

Y pleidiau

Mae’r Blaid Lafur bellach ar 42%, cynnydd o ddau y cant ers mis Ionawr, tra bod y Ceidwadwyr ar 36%.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol i fyny un pwynt ar 11%.

Cafodd 2,009 o oedolion eu holi ar-lein rhwng 9 a 10 Chwefror.