David Cameron
Mae David Cameron wedi ymateb i honiadau fod ei gynlluniau ar gyfer ‘y Gymdeithas Fawr’ yn ddim byd ond esgus i dorri nôl ar wariant cyhoeddus.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd The Observer heddiw dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio newid y ffordd y mae Prydain yn cael ei weinyddu.

“Mae’n wir nad ydi’r Gymdeithas Fawr yn dilyn ryw fath o gynllun canolog. Ond mae hynny oherwydd bod adeiladu cymdeithas gryfach a gweithgar yn mynd yn groes i’r syniad y dylai’r wladwriaeth drefnu popeth,” meddai.

Y nod oedd rhoi pŵer yn ôl yn nwylo cymunedau lleol a chyrff elusennol, meddai.

“Mae adeiladu cymdeithas gryfach, fwy yn rhywbeth y dylen ni fod yn anelu ato os ydi gwariant cyhoeddus yn codi neu disgyn,” meddai.

“Ond wrth i’r wladwriaeth wario llau a llai mae disgwyl i rai rhannau o gymdeithas gamu ymlaen a chytuno i wneud mwy.”

Rhybudd

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Fonesig Elisabeth Hoodless, sy’n ymddeol o’i swydd yn gyfarwyddwr y Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol, rybuddio y bydd y toriadau gwario yn arwain at lai o wirfoddoli.

Ond mynnodd David Cameron y byddai ei lywodraeth yn darparu arian ar gyfer elusennau a mentrau cymdeithasol.

“Mae yna fwy o gyfle iddyn nhw nawr nag erioed o’r blaen,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gobeithio yn naïf y bydd yr hadau yn tyfu ar eu liwt eu hunain; rydyn ni’n helpu i’w meithrin nhw,” meddai.

Roedd yn cyfaddef, serch hynny, y byddai’r toriadau gwario yn cyrraedd cyn i elusennau a mentrau cymdeithasol gael y cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd newydd.

Ymateb

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, fod y Gymdeithas Fawr yn “fethiant” a bod toriadau’r llywodraeth wedi ei danseilio.

“Does neb yn gallu gwirfoddoli mewn llyfrgell neu ganolfan os ydyn nhw’n cael eu cau i lawr,” meddai mewn erthygl ym mhapur newydd The Independent on Sunday.