Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddyn, dynes a dau o blant yn farw.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn, 32 oed, yn Watermead Country Park, Swydd Gaerlŷr, brynhawn ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael hyd i gorff dynes 24 oed, hogyn tair oed a merch dwy oed yn Jersey Road, Caerlŷr, brynhawn ddydd Sadwrn.

Y gred yw eu bod nhw i gyd yn aelodau o’r un teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedden nhw am eu henwi nhw eto.

Maen nhw’n ystyried marwolaethau’r ddynes a’r plant yn amheus.

“Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall ar hyn o bryd,” meddai’r llefarydd.