Fflagiau Prydain, a'r Cwîn
Mae Prydain yn parhau’n wlad boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl canlyniadau’r pôl piniwn Canada yw’r wlad y mae pobol yr Unol Daleithiau yn ei hoffi fwyaf, a mae Prydain yn ail.

Ar waelod y tabl mae Iran a Gogledd Korea. Dim ond 11% o bobol yr Unol Daleithiau oedd yn hoffi’r gwledydd rheini, yn ôl arolwg blynyddol Gallup.

Mae 92% o Americanwyr yn hoffi Canada, a 88% yn hoffi Prydain.

Mae mwy na 70% hefyd yn hoffi yr Almaen, Japan India a Ffrainc.

Ond mae llai nag 20% yn hoffi Palesteina, Pacistan ac Afghanistan.

Cafodd 1,015 o bobol eu holi ar hap rhwng 2 – 5 Chwefror.