Jedward
Bydd cyn-ymgeiswyr rhaglen yr X Factor, John ac Edward, ymysg yr ymgeiswyr yng nghystadleuaeth Cân Eurovision eleni ar ôl cael eu dewis i gynrychioli Iwerddon.

Maeddodd yr efeilliaid bedwar perfformiad arall ar raglen Late Late Show sianel RTE nos Wener, ac fe fyddwn nhw’n cymryd rhan yn y rownd gynderfynol yn Dusseldorf, yr Almaen, ym mis Mai.

Dywedodd y brodyr eu bod nhw’n “gyffrous iawn” ynglŷn â chymryd rhan. “Y nod yw gwneud yn dda a dod a’r gystadleuaeth yn ôl i Iwerddon.”

Y brodyr o Lucan yn Nulyn oedd ffefrynnau’r bwcis i fynd a hi, er bod y beirniaid wedi pleidleisio o blaid Nikki Kavanagh.

Roedd Don Mescall, The Vard Sisters, a Bling hefyd yn cymryd rhan.