Ken Clarke (yup CCA 2.0)
Dyw pobol ddosbarth canol Lloegr ddim wedi sylweddoli pa mor ddrwg yw’r sefyllfa ariannol, meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Daily Telegraph, mae’r cyn-Ganghellor yn rhybuddio y bydd y Llywodraeth yn wynebu problemau gwleidyddol oherwydd hynny.

“Dw i ddim yn credu bod Middle England wedi amgyffred maint y broblem,” meddai, gan ddweud bod cyflwr economaidd gwledydd Prydain yn “drychinebus”.

“Rhaid i ni fwrw ymlaen ond fe fydd hi’n anodd,” meddai. “Mae am fod yn dasg hir i ddod yn ôl i normalrwydd.

“Mae yna gymaint o bethau ansicrwydd yn rhyngwladol a dw i ddim yn meddwl ein bod ni am neidio’n ôl yn gyflym.”

Yn ôl un o lefarwyr economaidd y Blaid Lafur, Angela Eagle, mae’r sylwadau’n dangos bod rhaid i’r Llywodraeth newid eu trywydd a chyfadde’ nad yw eu polisi’n gweithio.