Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae’r ymgyrch o blaid ailwampio’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol yn gobeithio cymryd mantais o’r briodas frenhinol.

Maen nhw eisiau annog pobol Prydain i efelychu William a Kate a dweud ‘Ie’.

Yn ôl papur newydd y Guardian mae yna bryder na fyddai yr ymgyrch yn cael unrhyw sylw ynghanol halibalŵ’r briodas ar 29 Ebrill.

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 5 Mai, yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad. Does dim disgwyl y bydd mwy nag 35% o bobol Prydain bleidleisio yn y refferendwm.

Ond mae trefnwyr yr ymgyrch ‘Ie’ yn gobeithio troi’r briodas i’w mantais nhw gan ddatgan ei fod yn “dymor dweud ‘Ie’”.

“Adeg y briodas fe fydd yr haf ar y ffordd, ac fe fydd yn adeg optimistaidd,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch wrth y papur newydd.

“Bydd yr ymgyrch ‘Na’ yn ceisio codi amheuon… dyna ydi natur ymgyrch ‘Na’.”

Yn ôl pôl piniwn ICM gynhaliwyd ym mis Tachwedd mae 59% o’r rheini sy’n bwriadu pleidleisio yn cefnogi newid i’r system bleidlais amgen. Roedd 41% yn bwriadu pleidleisio ‘Na’.

Ond yn ôl pleidlais YouGov yr wythnos yma roedd 39% eisiau cadw’r system gyntaf heibio’r postyn, a 38% o blaid y system bleidlais amgen.