Nick Clegg - 'trefn synwyrol'
Fe fydd y rheolau tros fetio pobol sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yn cael eu llacio, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog Prydain.

Yn ôl y disgwyl, mae Nick Clegg wedi cyhoeddi newidiadau i drefniadau’r Llywodraeth Lafur mewn nifer o feysydd yn ymwneud â hawliau dynol.

Mae hynny’n cynnwys:

  • gwahardd clampio ceir ar dir preifat
  • rheolaeth lymach ar ddefnydd o gamerâu cylch cyfyng a chamerâu adnabod rhifau ceir
  • rheolaeth lymach ar gadw DNA pobol ddiniwed.

O dan y Mesur Gwarchod Rhyddid, fydd gan ysgolion ddim hawl chwaith i gymryd olion bysedd plant heb ganiatâd eu rhieni.

Ond y newid mwya’ dadleuol fydd llacio’r rheolau ynglŷn â phobol sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus.

Y newid

Yr ofn oedd y byddai’n rhaid i tua naw miliwn o bobol gael profion troseddol oherwydd eu bod yn ymwneud yn achlysurol â phlant a phobol o’r fath.

Yn awr, meddai’r Llywodraeth yn Llundain, dim ond pobol sy’n gweithio’n agos a chyson gyda nhw fydd yn gorfod wynebu’r profion.

Fydd dim angen tjecio dro ar ôl tro chwaith, bob tro y bydd person yn newid swydd.

Yn ôl Nick Clegg, roedd yr hen drefniadau’n “flêr” ac yn “groes i synnwyr cyffredin”.