Mae Banc Lloegr wedi cadw cyfraddau llôg ar y lefel isaf erioed o 0.5% – er gwaethaf rhybudd y gallai chwyddiant godi i 5% yn y misoedd nesaf.  

Pleidlais gan bwyllgor y banc a benderfynodd ar hyn, er bod pwysau cynyddol wedi bod arnyn nhw yn yr wythnosau diwethaf i’w godi.  

Dyw’r cyfradd llog ddim wedi newid ers bron i ddwy flynedd bellach – mis Mawrth 2009 – ond fe gododd chwyddiant i 3.7% ym mis Rhagfyr – sy’n llawer uwch na tharged y banc o 2%.  

Roedd rhai yn disgwyl y byddai’r pwyllgor wedi codi’r cyfradd llog heddiw, ar ôl i lais unig Andrew Sentance, a fu’n galw am godi’r cyfradd ers tro, gael cefnogaeth Martin Weale fis diwethaf.

Dim ond tair pleidlais arall fyddai wedi bod eu hangen i gael y pwyllgor o naw i newid polisi.  

Rhai wedi plesio

Mae arweinwyr busnes wedi canmol y banc am eu safiad, gan ddweud y gallai unrhyw newidiadau mewn benthyg roi adfywiad economi Prydian yn y fantol, yn enwedig ers i cynhyrchiant economi Prydain grebachu i 0.5% yng nghwarter olaf 2010.  

Mae 68% o forgeisi ar raddfa amrywiol, felly bydd perchnogion tai yn falch o glywed y penderfyniad, gan y bydd lefel eu had-daliadau’n parhau’n gymharol isel.  

Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc o blaid cadw eu rhaglen argraffu arian yr un peth, ar £200 biliwn, yn y gobaith y byddai hyn yn hybu’r economi.  

Chwyddiant i gyrraedd 5%

Mae llywodraethwr Banc Loegr, Mervin King, wedi rhybuddio y gallai chwyddiant godi i 5% yn ystod y misoedd nesaf, gan gynyddu’r pwysau ar y banc i godi’r cyfradd er mwyn dangos ymateb ymareferol i sefyllfa chwyddiant.  

Mae chwyddiant yn cael ei yrru i fyny ar hyn o bryd gan y cynnydd ym mhris petrol, bwyd, dillad, gwresogi, a chynyddu treth ar werth yn ddiweddar, o 17.5% i 20%.  

Y gweithiwr cyffredin sy’n teimlo effaith hyn fwyaf ar hyn o bryd, gan fod cyflogau wedi methu â chadw i fyny gyda’r cynydd mewn prisiau.  

Bydd Banc Lloegr eisioes wedi gweld yr adroddiad diweddaraf ar chwyddiant – i’w gyhoeddi’n swyddogol yr wythnos nesaf – a’r disgwyl yw y bydd yr adroddiad yn cadarnhau yr hyn mae nifer o bobl eisioes yn gwybod: bod prisiau wedi cynyddu unwaith eto.