Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Eric Illsley wedi cael ei garcharu am 12 mis am dwyllo gyda’i gostau seneddol.

Ef oedd yr Aelod Seneddol cyfredol cyntaf i gael ei ddedfrydu am gamddefnyddio costau pan blediodd yn euog y mis diwethaf i hawlio mwy na £14,000 o arian trethdalwyr yn anonest.

Roedd wedi wynebu pwysau mawr i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol Canol Barnsley ar ôl ei ddedfrydu, ond ni adawodd y Senedd tan yr wythnos yma.

Yn y cyfamser, mae cyn Aelod Seneddol Llafur arall, Jim Devine, wedi ei gael yn euog o hawlio treuliau trwy dwyll yn Llys y Goron Southwark heddiw.

Daeth y rheithgor i’r casgliad fod Jim Devine, 57 oed, wedi cyflwyno anfonebau ffug ar gyfer gwaith glanhau ac argraffu gwerth cyfanswm o £8,385.

Fe’i gafwyd yn euog o ddau achos o gyfrifo ffug, ond cafodd ei glirio ar gyhuddiad arall yn dod i gyfanswm o £360.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan y bydd yn cael ei ddedfrydu ymhen ychydig wythnosau.

 Arian wedi ei ‘dynnu o’r coch’

Ar y cyhuddiad cyntaf, roedd y rheithgor yn cytuno gyda’r amddiffyniad – fod Jim Devine wedi talu am ddau wasanaeth glanhau am £180 yr un.

Ond fe’i gafwyd yn euog ar yr ail gyhuddiad o fod wedi cael rhywun arall i lenwi tri anfoneb ffug gan y cwmni: dau am £360, ac un am £2,160.

Roedd yr anfonebau hynny, a gopïwyd o anfoneb wag gwreiddiol, wedi cael eu defnyddio i hawlio treuliau gan y cyn-AS rhwng Gorffennaf 2008 a Mai 2009.

Daeth y rheithgor i’r casgliad ei fod yn euog yn y trydydd achos hefyd, a’i fod wedi gofyn i’w gwmni argraffu i lofnodi dau anfoneb gyda’r geiriau ‘talwyd â diolch’, er mwyn awgrymu ei fod wedi talu am archebion.

Ond ni throsglwyddwyd unrhyw arian am yr archebion ffug, gwerth £2,400 a £3,105, ac fe gymerodd Jim Devine yr arian a hawliwyd gan yr anfonebau ffug rhwng Mawrth ac Ebrill 2009.

Dywedodd yr erlynydd nad oedd hi’n unrhyw gyd-ddigwyddiad fod cyfrif banc Jim Devine wedi cael ei dynnu o’r coch pan aeth taliad treuliau gwerth £2,400 i mewn i’w gyfrif.

 “Roedd yr arian a dderbyniodd oddi wrth y swyddfa ffïoedd yn ddigon i glirio ei or-ddrafft,” meddai’r erlynydd, Peter Wright QC.