prawf gwaed
Mae gwyddonwyr fforensig y Llywodraeth yn gwrthod profi samplau gwaed gyrwyr sydd wedi cael eu cyhuddo o yfed a gyrru.

Mae neges i bob prif gwnstabl wedi datgelu bod staff y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig wedi rhoi’r gorau i brosesu achosion yfed a gyrru oherwydd toriadau gwario gan y Llywodraeth.

Mae’r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona wedi dweud wrth heddluoedd i osod samplau mewn oergelloedd wrth i swyddogion geisio cael hyd i gwmni preifat i gymryd y gwaith profi. 

Fe ddywedodd Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona yn y neges na fyddai ‘r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig yn derbyn mwy o samplau o hyn ymlaen. 

Mae’r asiantaeth yn gobeithio canfod rhywun arall i brofi samplau o fewn o saith diwrnod gwaith ac yn annog heddluoedd unigol i beidio gwneud unrhyw drefniadau eu hunain. 

Bydd penderfyniad Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig yn effeithio ar y samplau hynny lle mae gyrwyr sy’n cael eu hamau o yfed a gyrru yn dewis rhoi prawf gwaed, yn methu rhoi prawf anadl neu pan mae offer yr heddlu’n ddiffygiol. 

Fe ddaw yn agos i ddau fis ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi bod y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig, sy’n gwneud colledion, yn dod i ben ym mis Mawrth 2012.