Siambr Cyngor Dinas Lerpwl

Mae 88 o arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ym maes llywodraeth leol wedi sgrifennu llythyr agored yn condemnio toriadau gwario’r Llywodraeth Glymblaid, sy’n cynnwys eu plaid eu hunain.

Maen nhw’n cyhuddo’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Eric Pickles, o weithio yn eu herbyn yn hytrach na gyda nhw, tra bod y toriadau gwario’n peryglu’r economi yn hytrach na’i ddiogelu.

Mae’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr yn cynnwys 17 o arweinwyr cynghorau yn Lloegr ac fe fydd yn cael ei weld yn her uniongyrchol arall i arweinwyr y blaid, Nick Clegg.

Ddoe, fe ymddiswyddodd un o lefarwyr y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl ymosodiad cry’ ar agwedd Llywodraeth y Glymblaid at y banciau.

Yn ôl yr Arglwydd Oakeshott, y llefarydd ar y Trysorlys, roedd angen gweithredu’n llawer llymach yn eu herbyn nhw na’r mesurau “gwan” a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe.

Y llythyr

Roedd penaethiaid y cynghorau’n dweud yn eu llythyr bod y toriadau gwario yn mynd llawer pellach nag y gallan nhw eu fforddio – roedd awdurdodau lleol, medden nhw, wedi gorfod torri 3% ar eu gwario bob blwyddyn ers wyth mlynedd tra oedd gwario’r Llywodraeth “yn rhemp”.

Mae un o weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gweinidog Cymunedau, Andrew Stunell, wedi galw am roi’r gorau i ffraeo tros “ddadl ddibwynt”, gan roi’r bai ar bolisi economaidd y Llywodraeth Lafur.

Fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr, Richard Kemp,l eu bod eisiau cydweithio gyda’r Llywodraeth ond bod Eric Pickles yn ymosod yn gyson arnyn nhw.

Ac yntau’n arweinydd Cyngor Lerpwl hefyd, fe bwysleisiodd nad oedd am adael y blaid.