Pencadlys Heddlu Llundain
Mae’r heddlu’n ymchwilio i dystiolaeth newydd bod newyddiadurwyr y News of the World wedi hacio i ffonau symudol nifer sylweddol o bobol amlwg eraill.

Mae’r rheiny’n cynnwys y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog John Prescott sy’n dal i fynnu bod Heddlu Llundain wedi methu â chynnal ymchwiliad iawn hyd yn hyn.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi cael tystiolaeth newydd sy’n ychwanegu at ddogfennau oedd gyda nhw ers 2005 ac mae hynny wedi arwain at drywydd newydd “pwysig”.

Codi eto

Roedd y dogfennau wedi eu cipio yn y cyfnod pan gafodd un o newyddiadurwyr y papur newydd a ditectif preifat o’r enw, Glenn Mulcaire, eu carcharu am hacio.

Dyw’r stori ddim wedi diflannu ers hynny ac, yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe gododd eto gyda pherchnogion y papur, News International, yn sacio newyddiadurwyr a’r golygydd ar y pryd, Andy Coulson, yn gadael ei swydd yn Bennaeth Cyfathrebu’r Prif Weinidog.

Mae plismyn bellach yn cysylltu gyda’r enwogion ar y rhestr i roi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd – er eu bod wedi dweud ynghynt nad oedd tystiolaeth o hacio yn eu hachosion nhw.

Meddai Prescott

Fe gafodd John Prescott sgwrs gydag un o benaethiaid Heddlu Llundain ddoe i gael clywed am y dystiolaeth newydd.

“Dw i’n credu bod hyn yn cadarnhau’r gred tymor hir sydd gen i fod ymchwiliad gwreiddiol Heddlu Llundain i Mulcaire a News International yn gwbl annigonol a’i fod wedi methu â dilyn yr holl dystiolaeth,” meddai.

“Rydw i rŵan yn edrych ymlaen at weld Heddlu Llundain o’r diwedd yn dadorchuddio’r gwirionedd.”