Carchar Caerdydd
Mae disgwyl y bydd Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio’n gry’ yn erbyn y syniad o roi pleidlais i garcharorion.

Fe allai olygu bod y Llywodraeth yn mynd ben ben yn erbyn y Llys Ewropeaidd tros Hawliau Dynol sydd wedi dweud ers chwe blynedd bod angen newid y drefn.

Mae rhai gwleidyddion amlwg yn rhybuddio y gallai’r Llywodraeth wynebu biliau iawndal o gymaint â £100 miliwn os na fyddan nhw’n dilyn dyfarniad y Llys.

Ond heddiw, mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref, Jack Straw, a chyn-lefarydd y Ceidwadwyr yn y maes, David Davis, yn arwain gwrthryfel yn erbyn y syniad.

O dan bwysau gan y Llys Ewropeaidd, mae’r Llywodraeth yn cynnig bod carcharorion sydd i mewn am lai na phedair blynedd yn cael pleidlais mewn etholiadau cyffredinol ac Ewropeaidd.

Disgwyl mwyafrif mawr yn erbyn

Y disgwyl yw y bydd mwyafrif mawr yn pleidleisio yn erbyn hynny heddiw, er na fydd y penderfyniad yn clymu dwylo’r Llywodraeth.

Fydd gweinidogion na mainc flaen y Blaid Lafur ddim yn pleidleisio ac fe fydd ASau mainc gefn yn cael pleidlais rydd.

Gobaith y gwrthwynebwyr yw y bydd cynnal y ddadl ynddo’i hun yn cryfhau dadleuon y Llywodraeth yn erbyn y Llys Ewropeaidd.

Mae rhai cyfreithwyr yn dweud y byddai’n rhaid estyn yr hawl i bleidleisio i etholiadau’r Cynulliad hefyd.