Banciau dinas Llundain
Mae banciau mwyaf Prydain wedi cytuno i dalu llai o o daliadau bonws na’r llynedd a chynyddu’r benthyg i fusnesau bach, yn rhan o gytundeb newydd rhwng y banciau a’r Llywodraeth.

Mae’r banciau wedi addo y bydd benthyg i fusnesau bach yn cynyddu 15% i £76 biliwn eleni a bydd cyfanswm y benthyg i fusnesau’n gyffredinol yn codi 6% i £190 biliwn.

Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne yn y senedd heddiw fod banciau RBS, HSBC, Barclays a Lloyds wedi dod i gytundeb heddiw  yn dilyn trafodaethau i gadarnhau eu hymrwymiad i Brosiect Merlin.

Mae’r Trysorlys wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r banciau ers deg wythnos er mwyn sicrhau’r newidiadau.

Fe fydd maint Cronfa Twf Busnesau, a fydd yn buddsoddi mewn busnesau bach yn cynyddu o £1.5bn i £2.8bn dros dair blynedd.

Mae’r cytundeb hefyd yn golygu bod cyflogau aelodau o fyrddau’r banciau  yn ogystal â chyflogau a thaliadau bonws y pum aelod uchaf o staff yn cael eu datgelu.

Fydd prif weithredwyr banciau ddim yn gallu derbyn bonws llawn os na fyddwn nhw wedi cyrraedd eu hymrwymiadau benthyg.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable wedi dweud bod y cytundeb yn gam da ‘mlaen i fusnesau Prydain gan ddweud ei fod “yn rhan o broses i ddiwygio’r sector bancio.”