Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn cyhoeddi cynlluniau heddiw i newid gorchmynion ymddygiad gwrth-gymdeithasol (Asbos).

O dan y cynlluniau fe fyddai’n golygu bod yr heddlu’n cael eu gorfodi i ymchwilio i ddigwyddiad o ymddygiad gwrth-gymdeithasol os oedd o leiaf pump o bobl wedi gwneud cwyn.

Ond dywed ymgyrchwyr na fydd yn delio â’r broblem yn y tymor hir.

Fe fydd y mesurau’n cael eu cyflwyno mewn papur gwyn heddiw a’r bwriad yw ceisio osgoi achosion lle mae dioddefwyr yn dweud eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi gwneud sawl cwyn i’r awdurdodau ynglŷn â chymdogion sy’n achosi problemau.