clamp olwynion (o wefan wikipedia)
Mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi stop ar glampwyr answyddogol sy’n cymryd £55 miliwn oddi wrth yrwyr bob blwyddyn.  

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yr wythnos hon yn nogfen y Llywodraeth ar Warchod Rhyddid.  

Os daw’r mesur i rym, dim ond yr heddlu a chynghorau fydd yn cael clampio neu lusgo car ymaith, a hynny mewn amgylchiadau arbennig.  

Ond mae rhai’n gwrthwynebu’r cynnig. Yn ôl yr Asiantaeth Parcio Prydeinig, bydd y Llywodraeth yn creu “siarter y parciwr hunanol”, gan roi rhwydd hynt i yrrwyr barcio lle maen nhw’n dymuno.  

 ‘Ddim yn dderbyniol’  

Mae’r Gweinidog y Swyddfa Gartref, Lynne Feathersrone, yn sefyll yn gadarn tu ôl i gynnig y Llywodraeth.   “Am ormod o amser mae gyrwyr wedi bod yn brae i gamddefnydd clampiau gan gwmnïau answyddogol,” meddai.

 “Mae’n fy ngwylltio i glywed am yrrwyr yn cael eu hebrwng i’r twll yn y wal yn hwyr yn y nos, neu’n cael eu gadael heb gerbyd gan gwmnïau preifat sydd wedi cartio’u cerbydau i ffwrdd. Yn amlwg dydi hyn ddim yn dderbyniol.”  

Mae tystiolaeth o Gymru a Lloegr yn dangos fod o gwmpas 500,000 o achosion o glampio ar dir preifat bob blwyddyn, gyda chost rhyddhau o £112 ar gyfartaledd.  

Mewn un achos y llynedd, cafodd nyrs ei chlampio tra’n ymweld â chlaf, a’i gorchymyn i dalu £350 er mwyn rhyddhau ei char. Roedd £50 yn cael ei ychwanegu at y ddirwy am bob awr wedi i’r ddirwy gael ei osod.