David Cameron
Mae un o aelodau’r Cabinet wedi gwadu bod David Cameron yn ddiog, ar ôl i lyfr newydd ddatgelu ei fod yn hoff o ganu karaoke a chwarae gemau cyfrifiadur.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, bod pob gwleidydd modern yn “gweithio’n rhy galed” a bod y Prif Weinidog yn codi â’r gwlith.

Ond mynnodd fod yn rhaid i arweinwyr “fod yn rhan o’r hil ddynol” ac na ddylai pobol eu beirniadu nhw am fod eisiau rhoi traed lan.

Bu’n rhaid i Ken Clarke amddiffyn David Cameron wedi cyhoeddi llyfr amdano gan y newyddiadurwyr Francis Elliott a James Hanning.

Mae’r llyfr yn manylu ar allu’r Prif Weinidog i ymlacio yn llwyr y tu allan i oriau gwaith. Mae’n canu karaoke, yn chwarae tennis yn erbyn peiriau o’r enw ‘y Cleggwr’, yn chwarae gemau cyfrifiadur ar ei iPad, ac yn llowcio tri neu bedwar gwydryn o win â’i ginio dydd Sul.

“Mae’n rhaid ymlacio mewn gwleidyddiaeth, ac mae’n ymlacio,” meddai Ken Clarke wrth Sky News. “Mae’n rhaid i bawb gael amser i’w hunain.

“Mae’n rhaid bod yn weithiwr caled iawn i fod yn weinidog yn y Deyrnas Unedig. Os wyt ti’n Brif Weinidog mae’n rhaid gweithio oriau hir iawn.

“Mae David Cameron yn codi â’r wawr ac yn gwrando ar raglen Farming Today BBC4 (sy’n dechrau am 5.45pm).

“Dydw i ddim wedi gwrando ar y rhaglen honno ers sawl blwyddyn, ond rydw i’n aml i fyny am 1am yn gweithio, â brandi a sigâr.

“Mae’n amhosib goroesi mewn gwleidyddiaeth drwy ddiogi. Ond mae’n ddefnyddiol cofio ein bod ni’n aelodau o’r hil ddynol ac mae gennym ni deuluoedd.”

Ymateb Balls

Dywedodd Canghellor yr wrthblaid, Eb Balls, ei fod yn bwysig bod gwleidyddion yn cael ymlacio ar y penwythnos.

Ond dywedodd mai gwaith David Cameron yn ystod yr wythnos oedd yn ei bryderu fwyaf.

“Rydw i’n cael yr argraff yn aml nad yw’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen,” meddai