Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Mae disgwyl cyhoeddiad y prynhawn yma gan y Canghellor George Osborne ynghylch casgliadau’r trafod hir gyda’r banciau ynglyn â chyfyngu bonws y bancwyr a hybu benthyciadau i fusnesau.

Yn ôl ffynonnellau yn Whitehall, bydd George Osborne yn gwneud datganiad ar drafodaethau ‘Prosiect Merlin’ gyda’r banciau, ar ôl cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin.  

Daw’r newyddion hyn ar ôl cyhoeddiad ganddo ddoe ei fod e’n mynd i gymryd £800 miliwn o dreth ychwanegol gan fanciau, eleni.

Er gwaetha’ peth anniddigrwydd o du’r banciau ar hyn, dywedodd George Osborne y byddai’r dreth yn “clirio’r ffordd” ar gyfer cytundeb yn nhrafodaethau ‘Prosiect Merlin’.  

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn ceisio ymrwymiad gan y banciau i gyfyngu ar y taliadau bonws eleni, yn ogystal a cheisio cynyddu benthyciadau i fusnesau o rhyw £175 biliwn i £190 biliwn.