Dinas Llundain
Mae disgwyl i fanciau mwyaf Prydain dalu cyfanswm o £6 biliwn mewn bonwsau er gwaethaf gwrthwynebiad Llywodraeth San Steffan.

Fe fydd maint bonwsau Standard Chartered, HSBC, Lloyds, Barclays ac RBS yn codi cywilydd ar y Trysorlys, yn ôl papur newydd y Sunday Times.

Mae disgwyl i bennaeth HSBC, Stuart Gulliver, dderbyn bonws o hyd at £10 miliwn, ac fe allai bos Barclays, Bom Diamond, gael bonws gwerth £9.5 miliwn, yn ôl y papur.

Mae disgwyl iddyn nhw dderbyn eu bonwsau eleni ar ôl eu hepgor neu eu rhoi i elusennau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Bom Diamond wrth Bwyllgor Dethol y Trysorlys yn ddiweddar bod angen “dod a’r cyfnod o edifeirwch ac ymddiheuriadau i ben”.

Mae disgwyl i fanc RBS, sydd wedi ei gefnogi gan y trethdalwr, dalu tua £1 biliwn mewn bonwsau i 200 o fancwyr eleni.