David Cameron
Mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn credu bod David Cameron yn rhedeg “llywodraeth lawn ffrindiau”, yn ôl pôl piniwn newydd.

Mae dros hanner y rheini a holwyd yn credu bod y bobol sydd ar frig Llywodraeth San Steffan yno am eu bod nhw’n nabod y bobol iawn, yn ôl y Mail on Sunday.

Yn gynharach yr wythnos hon honnodd y cyn-weinidog, Norman Tebbit, bod David Cameron wedi llenwi’r llywodraeth â’i gyfeillion ei hun.

Yn ôl arolwg gan gwmni Survation, mae chwech o bob deg o’r rheini a holwyd yn credu fod hynny’n wir.

Roedd pedwar o bob 10 yn credu bod David Cameron yn “snobyddlyd” a thri chwarter yn credu nad oedd y Blaid Geidwadol yn deall pobol gyffredin.

Holwyd 1,039 o bobol ar-lein rhwng dydd Iau a dydd Gwener.