Cafodd y ras gychod enwog rhwng colegau Rhydychen a Chaergrawnt ei rhwystro gan nofiwr yn yr afon Tafwys y prynhawn yma.

Mae’r nofiwr bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drosedd  yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus.

Fe fu’n rhaid ailgychwyn y ras ar ôl i’r dyn, a oedd mewn gwisg ddeifio, ymddangos gerllaw’r cychod, gan osgoi o drwch blewyn cael ei daro gan un o rwyfau Rhydychen.

Ar ôl ailgychwyn, aeth Caergrawnt ymlaen i ennill yn glir ar ôl i un o rwyfwyr Rhydychen dorri ei rwyf mewn gwrthdrawiad. Cafodd un arall o rwyfwyr Rhydychen, Alexander Woods ei daro’n wael ac aed ag ef i ysbyty Charing Cross. Mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Hon oedd y 158fed ras flynyddol rhwng y ddwy brifysgol, ac mae wedi cael ei disgrifio gan y trefnwyr fel y ras fwyaf dramatig yn ei hanes.

Dywedodd yr heddlu fod y nofiwr, sydd wedi cael ei enwi’n answyddogol fel Trenton Oldfield, yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yng ngorllewin Llundain wrth i ymchwiliadau gael eu gwneud. Mae’n cael ei ddal ar amheuaeth o drosedd adran 5 o’r drefn gyhoeddus, sef ymddygiad sy’n debygol o achosi aflonyddwch, ddychryn neu ofid.