Arolygydd heddlu
Fe fydd 10,000 o swyddi plismyn yn cael eu colli yng Nghymru a Lloegr, yn ôl y Blaid Lafur.

Maen nhw’n dweud bod ymchwil i bob un o’r 42 heddlu’n dangos y bydd toriadau gwario’r Llywodraeth yn arwain at lai o blismyn ar y strydoedd.

Mae heddluoedd yn wynebu toriadau o tuag 20% tros y blynyddoedd nesa’ gyda’r Llywodraeth yn dadlau mai gweithio’n fwy effeithiol yw’r ateb.

Ond, yn ôl y prif lefarydd Llafur ar faterion cartref, Yvette Cooper, mae’r ffigurau’n dangos bod y Llywodraeth yn “tynnu’r carped” o dan draed Prif Gwnstabliaid.

“Mae torri cymaint ac mor gyflym ar gyllidebau’r heddlu’n wallgo,” meddai. “Mae’n mynd yn hollol groes i farn cymunedau ar draws y wlad sydd eisiau cadw plismyn ar y bît.”