Y prif lysoedd barn yn Llundain
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi ceisio cefnogi’r syniad o gynnal rhagor o achosion llys y tu ôl i ddrysau cau – er gwaetha’ gwrthwynebiad y Dirprwy Brif Weinidog.

Roedd Nick Clegg wedi sgrifennu at y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yn dweud na allai ef na’i gyd-weinidogion o’r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi’r cynllun.

Yn awr mae Kenneth Clarke wedi taro’n ôl gan ddweud mai’r dewis yw “cau’r drysau neu gau achosion yn gyfan gwbl”.

Fe ddywedodd wrth y BBC mai barnwyr fyddai’n cael y gair terfynol cyn bod achosion yn cael eu clywed yn y dirgel.

‘Sathru ar gyfiawnder’

Bwriad y Llywodraeth yw ei gwneud hi’n haws i’r lluoedd diogelwch allu rhoi tystiolaeth mewn achosion a threngholiadau ond, yn ôl Nick Clegg, ddylai hynny ddim bod yn esgus tros “sathru” ar gyfiawnder.

Mae pwyllgor o aelodau seneddol o bob plaid – y Cydbwyllgor Hawliau Dynol – hefyd wedi condemnio’r cynlluniau gan ddweud eu bod yn “hanfodol annheg”.