Ed Miliband
Mae Ed Miliband wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd y Blaid Lafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw ei sylwadau er gwaethaf canlyniad trychinebus Llafur yn isetholiad Bradford West.

Dioddefodd y blaid ergyd fawr yno pan ennillodd plaid Respect George Galloway y sedd gan Lafur â mwy na 10,000 o bleidleisiau.

Ond mewn cyfweliad â phapur newydd The Observer dywedodd Ed Miliband fod David Cameron ar y droed ôl ar ôl wythnos o benawdau newyddion negyddol.

Mae pôl-piniwn gan y Sunday Times heddiw yn rhoi Llafur ar y blaen ar 42%, dau bwynt canran yn uwch na’r wythnos ddiwethaf, a’r Ceidwadwyr ar 33%.

“Rydw i’n credu y bydd yr wythnos hon yn cael ei gofio fel yr wythnos yr aeth cynllun Cameron ar chwâl,” meddai.

“Roedd nos Iau yn ganlyniad gwael iawn ond mae yna ddarlun ehangach ac rydw i’n meddwl mai dyma’r wythnos pan ddechreuodd Llafur frwydro’n ôl.

“Mae bod yn wrthblaid yn gyfnod anodd. Ond rydw i’n hyderus mai dim ond am un tymor y byddwn ni’n wrthblaid.

“Dros y dyddiau diwethaf mae’r Llywodraeth wedi ceisio creu gwrthdaro, a hynny ar draul y cyhoedd.

“Roedd gweinidogion yn gwybod nad oedd modd cynnal streic o fewn saith diwrnod.

“Ond fe wnaethon nhw godi ofn ar y cyhoedd gan obeithio y byddai’n hwb iddyn nhw yn y polau piniwn.”