Newyddion drwg i David Cameron
Mae pleidleiswyr yn credu bod y Llywodraeth wedi colli cysylltiad â phobol gyffredin, yn ôl pôl-piniwn newydd gyhoeddwyd heddiw.

Roedd y mwyafrif llethol hefyd yn beio’r llywodraeth am annog y panig wrth i bobol lenwi eu ceir â phetrol a disel.

Yn ôl canlyniad arolwg ComRes, ar ran papurau newydd The Independent a’r Sunday Mirror, roedd 72% yn credu bod y llywodraeth glymblaid “wedi colli cysylltiad â phobol gyffredin”.

Roedd pedwar o bob pump o’r rheini a holwyd yn credu mai gweinidogion oedd ar fai am y panig mewn gorsafoedd petrol yr wythnos ddiwethaf.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn ergyd i’r Prif Weinidog, David Cameron, ar ôl yr wythnos galetaf i’r llywodraeth ers ei ffurfio yn 2010.

Mae wedi ei feirniadu am y Gyllideb, yr argyfwng tanwydd, ac am giniawa â  noddwyr hael yn Stryd Downing.

Yn ôl yr arolwg roedd 71% yn anghytuno â phenderfyniad George Osborne i godi VAT ar basteiod poeth, ac roedd 64% yn anghytuno â’r ‘dreth mam-gu’.

Yn y cyfamser mae pôl-piniwn gan y Sunday Times yn rhoi Llafur ar y blaen ar 42%, dau bwynt canran yn uwch na’r wythnos ddiwethaf, a’r Ceidwadwyr ar 33%.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn syrthio un pwynt i 8%.