Llong Trident
Bydd rhaid i’r Deyrnas Unedig ystyried rhoi’r gorau i feddu ar arfau niwclear pe bai’r Alban yn datgan annibyniaeth, yn ôl corff ymchwil dylanwadol.

Mae’r grŵp Carnegie Endowment for International Peace yn cynnal seminar ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau heddiw gan ystyried “Yr Alban a Dyfodol Arfau Niwclear Prydain”.

“Fe allai refferendwm yr Alban ar annibyniaeth yn hydref 2014 gael effaith pellgyrhaeddol ar atalrym niwclear y Deyrnas Unedig, ac ar berthynas Prydain â’r Unol Daleithiau,” meddai.

“Mae grym niwclear y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys taflegrau Trident ar longau tanfor Vangard, wedi ei leoli yn yr Alban.

“Os nad yw’n bosib ail-leoli’r llongau tanfor i Loegr neu Gymru, fe allai Llynges Frenhinol y Deyrnas Unedig ystyried sawl dewis arall gan gynnwys dadarfogi.”

Awgrymodd un o ddadansoddwr amddiffyn mwyaf blaenllaw Cyngres yr Unol Daleithiau, Robert L Goldich, na fyddai Alban annibynnol yn beth da i’r Unol Daleithiau.

“A fyddai gwlad sy’n syrthio’n ddarnau yn parhau yn bartner dibynadwy i’r Unol Daleithiau?” gofynnodd.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi datgan mai eu bwriad nhw fyddai diddymu arfau niwclear pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.