Mae dynes wedi ei hanafu’n wael wedi i betrol gynnau wrth iddi ei dywallt o canister plastig i bun arall yn ei chegin.

Roedd y ddynes yn ei chartref pan gynnodd yr hylif, a rhoi ei dillad ar dân, meddai gwasanaeth tân ac achub Gogledd Swydd Efrog.

Aethpwyd a’r ddynes, sydd ei 40au, i’r ysbyty â llosgiadau i 40% o’i chorff. Mae’n debyg bod y petrol wedi cynnau gan ei bod yn hi’n defnyddio popty ar y pryd.

Mae llefarydd ar ran y gwasanaeth tân wedi rhybuddio pobol i beidio storio petrol yn eu cartrefi.

Yn ôl Peter Hudson, o wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Swydd Efrog, dylai “aelodau o’r cyhoedd gymryd gofal arbennig wrth ymdrin â phetrol, a bod yn ymwybodol o’r risg sydd ynghlwm wrth defnyddio a storio tanwydd yn anghywir”.

“Ni ddylai caniau tanwydd gael eu storio mewn llefydd domestig fel ceginau, ystafelloed byw, ystafelloedd gwely a than y grisiau,” meddai.

“Peidiwch byth â dod â phetrol i mewn i’ch cartref,” rhybuddiodd.

“Os ydych chi’n arogli petrol mewn garej neu adeilad allanol, gadewch aer i mewn a gwnewch yn siwr nad oes neb yn ysmygu nac yn troi switsys trydanol ymlaen neu i ffwrdd. Gallai’r sbarc lleiaf achosi ffrwydriad.”