David Cameron - llai o oddefgarwch
Mae angen cymryd agwedd galetach at grwpiau o ddiwylliannau eraill sy’n gwrthod gwerthoedd gwledydd Prydain, meddai’r Prif Weinidog.

Mewn araith ym Munich heddiw, fe fydd David Cameron yn dweud bod rhaid rhoi diwedd ar y syniad o oddef grwpiau sy’n cadw ar wahân.

Yn lle hynny, fe fydd yn dweud bod polisiau’r blynyddoedd wedi methu a bod angen mynnu fod pobol o ddiwylliannau eraill hefyd yn derbyn ffordd o fyw gwledydd Prydain.

Fe fydd yn galw am “ryddfrydiaeth gyhyrog” yn hytrach na “goddefgarwch tawel” – yn ôl gwybodaeth ymlaen llaw am yr araith, fe fyddai hynny’n golygu gwrthod llwyfan a chefnogaeth i grwpiau sy’n pregethu ar wahanrwydd.

Yn ogystal ag amddiffyn gwerthoedd, meddai, mae hynny’n angenrheidiol i atal pobol ifanc rhag troi’n eithafwyr a therfysgwyr.

Yr araith

Fe fydd David Cameron yn nodi rhai o’r pethau sydd, meddai, yn nodweddion y mae’n rhaid eu hamddiffyn ac y bydd disgwyl i bobol eraill eu cefnogi.

“Rhyddid gwybodaeth. Rhyddid addoli. Democratiaeth. Ufuddhau i’r gyfraith. Hawliau cyfartal, waeth beth yw hil, rhyw, neu rywioldeb pobol.

“Rhaid i bob un ohonon ni yn ein cymunedau fod yn ddiamwys a phenderfynol ynglŷn ag amddiffyn ein rhyddid fel hyn.

Fe fydd hefyd yn ceisio pwysleisio bod gwahaniaeth rhwng Moslemiaid selog ac eithafwyr Islamaidd ond fe fydd yn dweud bod priodasau gorfodol yn enghraifft o arfer annerbyniol gan ddiwylliannau eraill.