Dysgu gyrru - llun y DVLA
Mae undeb yn honni bod cynlluniau ar y gweill i gau canolfannau prawf gyrru ac i breifateiddio’r profion.

Fe ddywedodd undeb gweision sifil, y PCS, eu bod nhw wedi gweld dogfen sy’n dangos bod yr Asiantaeth Safonau Gyrru’n ystyried cau’r canolfannau a defnyddio cwmnïau preifat i gynnal y profion.

Fe fyddai canolfannau cymunedol ac archfarchnadoedd a safleoedd eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer y rheiny.

Mae’r cynlluniau’n dilyn astudiaethau gan Lywodraeth San Steffan i gynnig profion gyrru mwy effeithlon ar gost lai.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi bod yn ymchwilio i weld a fyddai’n bosib i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r tu allan iddo gynnal y profion.

“Mae’r dogfennau yma’n fwy o dystiolaeth fod mwy a mwy o breifateiddio’n cripian i mewn i waith yr asiantaeth,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Mark Serwotka.

Mae llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth wedi dweud eu bod nhw’n parhau i edrych ar ffyrdd o wella’r prosesau hyfforddi a phrofi, ond nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud eto.