Nick Clegg
Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn rhybuddio bod Prydain yn wynebu “taith hir ac anodd” cyn bod yr economi yn ôl ar ei draed.

Mewn araith heddiw fe fydd yn dweud bod y glymblaid yn San Steffan nid yn unig eisiau dileu’r diffyg ariannol ond am “greu model newydd fydd yn arwain at dwf economaidd cynaliadwy”.

Roedd y llywodraeth wedi etifeddu “model economaidd methedig” oedd yn dibynnu yn ormodol ar wasanaethau ariannol a dyled, meddai.

Fe fydd Nick Clegg yn cyfeirio at y ffigyrau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf oedd yn awgrymu bod economi Gwledydd Prydain wedi crebachu 0.5% yn 2010.

Roedd y ffigyrau yn “siomedig” ond roedd “arwyddion calonogol iawn. Mae pethau’n anodd ond daw haul ar fryn”.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi eu cyhuddo gan yr wrthblaid a rhai busnesau o ganolbwyntio’n ormodol ar doriadau a ddim digon ar annog twf yn yr economi.

Fe fydd Nick Clegg yn dweud fod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar gynhyrchu cynllun “trwyadl a thystiolaethol” er mwyn annog twf cyn datgelu’r gyllideb ar 23 Mawrth.

“Rydyn ni’n benderfynol o greu model newydd ar gyfer twf economaidd, ac economi newydd – un sy’n seiliedig ar fenter a buddsoddiad, nid dyled,” meddai’r araith.

“Ein nod yw creu model newydd er mwyn sicrhau twf economaidd cynaliadwy.”