Canolfan yr Asiantaeth Ffiniau
Mae degau – efallai gannoedd – o filoedd o bobol yn byw mewn tir neb rhwng tlodi a pheryg, yn ôl ymchwil o Brifysgol Abertawe.

Ceiswyr lloches ydyn nhw sydd naill ai yn aros i apelio yn erbyn penderfyniad i’w hanfon o wledydd Prydain neu’n methu â chael lloches na chael eu hanfon yn ôl gartref.

Mae rhai o’r rheiny, meddai’r ymchwilwyr, yn dod o lefydd fel Irac neu Zimbabwe, gyda’r Llywodraeth yn cydnabod nad oes modd eu hanfon yn ôl rhag iddyn nhw gael eu lladd.

Ond, ar yr un pryd, dydyn nhw ddim yn cael cefnogaeth ariannol i’w cynnal eu hunain.

Manylion yr adroddiad

Yn ôl adroddiad yr uned Ymchwil Mewnfudo Rhyngwladol yn y Brifysgol, mae rhai o’r ceiswyr yn mynd yn sâl yn feddyliol a rhai hyd yn oed yn troi at y fasnach ryw er mwyn ceisio byw.

Mae llawer yn treulio’r dydd yn crwydro’r strydoedd ac yn gorfod cysgu ar loriau ffrindiau.

Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan yr elusen Oxfam sy’n cyhuddo’r Llywodraeth o dynnu pob hawl ac urddas oddi ar y ceiswyr.

Fe fydd rhai, medden nhw, wedi colli eu hachosion yn y lle cynta’ am nad oes ganddyn nhw gyngor cyfreithlon neu am nad ydyn nhw’n gallu siarad Saesneg.

Mae un o bob tri sy’n cael eu gwrthod yn ennill eu hapêl – yn ôl Oxfam mae hynny’n dangos bod y broses o wneud y penderfyniadau gwreiddiol yn wael.

Maen nhw hefyd yn feirniadol o’r system fudd-dal sydd ar gael i geiswyr – mae’n gyfyng iawn ac mae llawer yn methu â chael cymorth, medden nhw.

Barn yr ymchwilwyr

“Dyma bobol sydd wedi gwneud penderfyniadau torcalonnus i adael eu teuluoedd a dianc o’u cartrefi,” meddai Kate Wareing, Cyfarwyddwr Tlodi yn y Deyrnas Unedig ar ran Oxfam.

“Maen nhw’n troi’n ysbrydion yn byw ar strydoedd gwledydd Prydain oherwydd polisi a phenderfyniadau gan y Llywodraeth sy’n tynnu eu hawliau a’u hurddas oddi arnyn nhw.

“Mae’r system bresennol wedi ei chynllunio i wneud i bobol deimlo cyn ised â phosib gan drosglwyddo’r neges nad yw ceiswyr sy’n cael eu gwrthod hyd yn oed yn haeddu ein trugaredd ni.”

Yn ôl yr ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe roedd y gwaith wedi rhoi cip anghyffredin ar fywydau’r ceiswyr lloches sydd, medden nhw, mewn “limbo”.

“Dyw gorfodi pobol i fyw mewn cyni ddim yn ateb dynol a dyw e ddim yn arwain at gael y bobol i ddychwelyd yn wirfoddol i’w gwledydd gwreiddiol,” meddai pennaeth yr uned ymchwil, yr Athro Heaven Crawley.

Roedden nhw wedi treulio amser yn holi 45 o’r ceiswyr yn fanwl am eu bywydau.