Pab Benedict XVI
Mae ASau wedi gofyn am esboniad pam y cafodd £1.85 miliwn o arian cymorth rhyngwladol ei ddefnyddio i dalu am ymweliad y Pab â gwledydd Prydain.

Fe ddangosodd adroddiad gan bwyllgor dethol bod yr arian wedi ei symud o goffrau’r Adran Ddatblygu Rhyngwladol er mwyn helpu i dalu am yr ymweliad y llynedd.

Fe fydd pobol yn ei chael hi’n anodd deall sut yr oedd y gwario’n cwrdd â chyfrifoldebau’r Llywodraeth i roi arian cymorth i wledydd tlawd, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol, Malcolm Bruce.

Rheswm y Llywodraeth

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, roedd yr arian yn “cydnabod rôl yr Eglwys Gatholig yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau iechyd ac addysg mewn gwledydd sy’n datblygu”.

Roedd hefyd yn mynnu bod yr arian – cyfraniad at y gost gyfan o £10 miliwn – yn ychwanegol at y cymorth y bydd gwledydd Prydain yn ei roi o dan ei ymrwymiadau i’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi codi amheuon am y duedd ddiweddar o roi mwy a mwy o arian cymorth i wledydd lle mae rhyfel a helynt, lle mae peryg bod arian yn cael ei gamddefnyddio neu’i golli oherwydd yr amgylchiadau a llywodraethau llwgr.