Mae marwolaethau ac anafiadau ymhlith beicwyr yn cynyddu ar gyfradd sy’n “peri pryder”, meddai elusen heddiw wrth ymateb i ystadegau newydd.

Mae ystadegau dros dro yn dangos fod diogelwch cyffredinol ar ffyrdd wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda thrychinebau’n disgyn i lai na 2,000 am y tro cyntaf ers i gofnodion ddechrau.

Ond, roedd yna gynnydd o 3% yn nifer y beicwyr gafodd eu lladd neu eu hanafu ar  ffyrdd wrth i gymudwyr droi at feiciau.

“Yr hyn sy’n peri pryder yw’r cynnydd yn nifer marwolaethau beicwyr,” meddai Robert Gilfford, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor ymgynghorol y Senedd ar  Drafnidiaeth a Diogelwch.

Fe ddywedodd fod nifer y bobl wedi’u lladd neu ei hanafu’n ddifrifol wedi codi 10% ers y flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi, 2007.

‘Prisiau tanwydd’

Yn ôl Edmund King, Llywydd yr AA – mae prisiau tanwydd wedi arwain at “gynnydd mewn beicio gan ddod â chynnydd mewn damweiniau.”

“Er y gallai’r cynnydd mewn damweiniau beiciau beri pryder, mae’r risg i bob unigolyn efallai dal yn is nag o’r blaen pan ydych yn ystyried y cynnydd yn nifer y beicwyr,” meddai Chris Peck, swyddog polisi Sefydliad Cenedlaethol Beicwyr y DU.