San Steffan
Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cydweithio ar gais i adfer cannoedd o filiynau o bunnoedd a oedd wedi cael eu dyrannu i’r tair gwlad.

Maen nhw’n pwyso ar lywodraeth Prydain i wrthdroi ei phenderfyniad i roi’r gorau i hyblygrwydd diwedd blwyddyn – trefn ariannol sy’n galluogi i arian sydd heb gael ei wario mewn un flwyddyn gael ei drosglwyddo i’r flwyddyn ganlynol.

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y llynedd y byddai’n diddymu’r hawl i’r tair llywodraeth ddatganoledig ddefnyddio arian sydd wedi cronni yn sgil hyblygrwydd diwedd blwyddyn o ddiwedd y mis nesaf ymlaen.

Yn ôl llywodraeth y Cynulliad, mae hyn wedi golygu bod Cymru ar ei cholled o £400 miliwn.

“Ry’n ni’n anhapus iawn ynghylch cynllun llywodraeth Prydain i bocedu bron i £400 miliwn a gafodd ei bleidleisio inni gan y Senedd,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. “Mae’n siom enfawr, yn enwedig o gofio’r hyn a wyddon ni am ein cyllideb dros y blynyddoedd nesaf.

“Dyma arian a ddylai fod ar gael i gefnogi buddsoddi hanfodol mewn adferiad economaidd.

“Ry’n ni wedi codi hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a gofyn iddo ryddhau’r cyllid i ni. Ry’n ni’n dal i ddisgwyl am ei ymateb.”