Roedd heddwas fu farw ym mis Medi’r llynedd wedi ei arestio’r mis blaenorol dan amheuaeth o feddu ar luniau anweddus o blant.

Heddiw rhyddhaodd Heddlu Caerloyw ddatganiad am yr heddwas fu’n gweithio â’r uned plant.

Cafodd y swyddog ei arestio ym mis Medi 2011 dan “amheuaeth o gynhyrchu, meddiant a dosbarthu delweddau anweddus o blant”.

Roedd Sarsiant John Skilling 50, yn gyfrifol am uned ysgolion Heddlu Caerloyw, ac roedd yn adnabyddus am ei areithiau ynglŷn â bwlio ar-lein.

Daethpwyd o hyd i’w gorff yn ei gar mewn garej llawn mwg ecsôst.

Bydd cwest llawn yn cael ei lansio yng Nghaerloyw ar Fawrth 13eg

Datganiad Heddlu Caerloyw

“Gallwn ni gadarnhau bod swyddog heddlu 50 mlwydd oed wedi ei arestio ar Fedi 13eg 2011, ar amheuaeth o gynhyrchu, meddu ar a dosbarthu delweddau anweddus o blant,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“Cafodd ei atal o’i waith dros dro yn syth, ond yna gadawodd yr heddlu o’i wirfodd.

“Daethpwyd o hyd iddo yn farw yn ei gartref ar 20 Tachwedd 2011. Dyw ei farwolaeth ddim yn  cael ei drin fel un amheus.

“Rydym ni wedi ein bodloni, ar hyn o bryd, fod yr unigolyn a gafodd ei arestio heb weithredu unrhyw droseddau wrth wneud ei waith.”