Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio clerigwr ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod mewn ficerdy.

Roedd y Parchedig John Suddards, 59 oed, wedi cael ei drywanu sawl gwaith yn y ficerdy yn Thornbury, Sir Gaerloyw, meddai’r heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i weithwyr gyrraedd y ficerdy fore ddoe a sylweddoli bod yr adeilad wedi ei gloi.

Mae’n debyg mai dim ond am ychydig fisoedd yr oedd y Parchedig John Suddards wedi byw yn y pentref.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth.