Mae’r Prif Weinidog yn bwriadu cyflwyno rheolau “llymach” er mwyn sicrhau bod pobl sy’n dod i fyw ym Mhrydain yn dysgu Saesneg.

Dywedodd David Cameron fod “rhywfaint o ddatblygiadau” wedi eu gwneud gan Lafur, ond bod angen i’r llywodraeth hon fynd yn bellach.

Ar hyn o byd, mae’r pobl sy’n dod i fyw ym Mhrydain fel gwŷr neu wragedd i bobl sydd eisioes yma yn gorfod gallu siarad a deall Saesneg.

Yn ddiweddar, dywedodd y gweinidog mewnfudo Damian Green y byddai’r angen i siarad Saesneg yn galluogi creu “cymdeithas fwy clos”.

Pan ofynodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Kris Hopkins i’r Prif Weinidog a fyddai e’n “cytuno fod cyfrifoldeb ar rieni i sicrhau bod eu plant yn gallu siarad Saesneg?” ymatebodd David Cameron yn gwbwl gadarnhaol.

“Rwy’n cytuno’n llwyr,” meddai.

“Fe ddylien ni fod, ac fe fyddwn ni, yn rhoi rheolau llymach at ei gilydd er mwyn sicrhau eu bod nhw yn dysgu Saesneg, felly pan fyddan nhw’n dod draw, os fyddan nhw’n dod, byddan nhw’n gallu integreiddio yn well yn ein gwlad ni.”