San Steffan
Fe glywodd llys heddiw honiadau fod cyn-Aelod Seneddol Llafur wedi defnyddio anfonebau ffug am waith glanhau na chafodd ei wneud wrth hawlio costau seneddol.

Mae Jim Devine, 57, a oedd yn aelod seneddol dros Livingston yn yr Alban, yn y llys ar gyhuddiad o hawlio £9,000 yn anghyfreithlon o’r pwrs cyhoeddus.

Yn ôl yr erlyniad, bu’r cyn AS hefyd yn hawlio arian am waith argraffu pamffledi, na chafodd ei wneud.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Peter Wright QC, fod yr achos wedi codi yn sgil “sawl achos o hawlio arian yn dwyllodrus ac yn anonest yn ei safle fel AS.”

Ychwanegodd y bargyfreithiwr fod yr achos yn erbyn Jim Devine yn “hynod o amlwg”, a bod y cyn AS wedi hawlio’r arian “gyda’r bwriad o wneud elw iddo fe’i hun, neu gyda’r bwriad o golledu un arall – y pwrs cyhoeddus.”

Yn ôl Peter Wright, fe ddefnyddiodd y cyn AS pum anfoneb ffug i hawlio arian am waith glanhau, a dau ddogfen ffug i hawlio arian am argraffu pamffledi.

Mae’r cyhuddiad cyntaf yn honni fod Jim Devine wedi hawlio £3,240 yn anonest am waith glanhau i’w ail-gartref yn Llundain rhwng Gorffennaf 2008 a Mai 2009.

Mae’r ail gyhuddiad yn honni ei fod wedi hawlio £5,505 am adnoddau swyddfa rhwng Mawrth 2009 ac Ebrill 2009 trwy ddefnyddio dogfennau ffug,

Mae Jim Devine, o Bathgate, Gorllewin Lothian, yn gwadu’r ddau gyhuddiad o gyfrifo twyllodrus.