Ed Miliband
Bydd arweinydd Llafur Ed Miliband yn dadlau’r achos dros gadw’r Alban yn rhan o’r DU heddiw, wrth annerch torf yn Glasgow.

Mae disgwyl i arweinydd Llafur ganolbwyntio ar “degwch” a “datgblygiad” yn ystod ei araith yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, gan bwysleisio ar fanteision aros o fewn yr undeb.

Mae disgwyl hefyd iddo gydnabod fod Llafur wedi colli tir i’r SNP yn etholiadau Senedd yr Alban fis Mai y llynedd.

Fe fydd Ed Miliband yn rhannu llwyfan gydag arweinydd Llafur yr Alban, Johann Lamont, a gafodd ei dewis yn arweinydd dros y blaid yn yr Alban ychydig cyn y Nadolig.

Mae disgwyl i Ed Miliband roi ei genfogaeth i “ymgyrch hir” Johann Lamont i gadw’r “Deyrnas Unedig.”

‘Tegwch’

Wrth drafod ei araith y bore ’ma dywedodd Ed Miliband ei fod eisiau “mynd i’r afael â’r rhwyg go iawn yn ein cymdeithas. Nid rhwng yr Alban a gweddill y DU, ond rhwng y rhai sydd â digon, a’r rhai sydd heb ddigon.

“Felly, dwi ddim yma i ddweud wrth yr Alban na fyddan nhw’n gallu ymdopi tu allan i’r DU.

“Ond dwi yma i ddweud wrthoch chi fod angen i’r Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn le tecach i fyw.

“Ac fe allwn ni wneud hyn gyda’n gilydd.”

Daw’r anerchiad gan arweinydd Llafur Prydain heddiw, lai nag wythnos wedi i Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, lansio’i bapur ymgynghoriad ar gynnal refferendwm annibyniaeth yr Alban. Mae’r Prif Weinidog a’i blaid, yr SNP, eisiau gweld refferendwm yn cael ei gynnal ar annibyniaeth i’r Alban yn yr hydref 2014.