Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls
Mae Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls, wedi cythruddo undebwyr wrth ddweud na all y Blaid Lafur addo diddymu polisi’r Llywodraeth o rewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus.
Dywedodd Ed Balls na allai Llafur wneud unrhyw ymrwymiadau ar wario cyhoeddus oni bai eu bod nhw’n “gyfrifol a chredadwy”.
“Rhaid inni fod yn onest gyda phobl ynghylch y dewisiadau sy’n eu hwynebu,” meddai.
“Alla i ddim dweud wrth weithwyr y sector preifat a’r sector cyhoeddus nac wrth y wlad y byddai Llafur yn rhoi tâl uwch o flaen swyddi pan fo diweithdra mor uchel.
“Alla i ddim gwneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd ar gyfer y sefyllfa ymhen tair blynedd – fyddai hynny ddim yn gredadwy.”
Mae arweinydd undeb yr RMT, Bob Crow, wedi cyhuddo Ed Balls o fradychu cefnogwyr y Blaid Lafur.
‘Hunan-laddiad’
“Trwy ymuno â’r glymblaid Dorïaidd yn yr ymosodiad ar dâl y sector cyhoeddus, bydd Ed Balls yn arwyddo nodyn hunan-laddiad Llafur wrth iddo elyniaethu ei bleidleiswyr craidd yn eu miliynau,” meddai.
“Mae’r syniad y bydd staff y sector cyhoeddus yn mynd i bleidleisio dros Blaid Lafur sy’n cefnogi 20% o doriad yn eu safonau, tra bod y spivs a’r hapchwaraewyr sydd wedi achosi’r argyfwng yn chwerthin yr holl ffordd i’r banc, yn jôc ddi-chwaeth ac yn frad llwyr ar aelodau undebau llafur sy’n ariannu’r blaid.”
Dywedodd Mark Serwotka, arweinydd undeb y PCS, fod sylwadau Ed Balls yn “hynod o siomedig”.
“Yn lle cynnig yr un toriadau â’r Llywodraeth, fe ddylai Llafur fod yn cynnig dewis arall clir ac yn siarad dros weithwyr y sector cyhoeddus a phobl gyffredin cymdeithas,” meddai.