Cairo
Mae aelod seneddol Ceidwadol blaenllaw wedi beirniadu cwmnïau teithio sy’n cynnig prisiau rhad am wyliau i’r Aifft.

Ar raglen Daybreak ITV bore ’ma, dywedodd yr AS Patrick Mercer na ddylai cwmnïau teithio gynnig gwyliau yn yr Aifft tra bod y gwrthdaro rhwng protestwyr a’r llywodraeth yno’n parhau.

Dylai’r Swyddfa Dramor newid eu cyngor teithio er mwyn atal pobl rhag mynd i’r wlad, meddai.

Rhybuddiodd Patrick Mercer fod y sefyllfa yn yr Aifft yn mynd i waethygu, a bod yn “rhaid i ni gael ein pobl allan” cyn i hynny ddigwydd.

“Mae’n gwbl gamarweiniol esgus fod pethau’n mynd i wella yn yr Aifft,” meddai.

Mae’r Swyddfa Dramor eisoes wedi cynghori yn erbyn teithiau diangen i Cairo, Alexandria, Luxor a Suez.

Maen nhw hefyd yn argymell y dylai Prydeinwyr yng Nghairo, Alexandria a Suez adael y wlad ar awyrennau masnachol os yn bosib.

Dywedodd Downing Street fod y cyngor teithio dan arolygaeth barhaol.

Ardaloedd twristaidd yn ‘ddiogel’

Dywedodd un o weinidogion y Swyddfa Dramor, Alistair Burt, fod mwyafrif y Prydeinwyr sy’n dymuno gadael y wlad wedi llwyddo i wneud hynny’n barod.

Yn ôl llefarydd ar ran cwmnïau teithio Thomson a First Choice Holidays, mae mwyafrif y Prydeinwyr sydd ar ôl mewn ardaloedd twristaidd gan gynnwys Sharm el Sheikh, sydd “dros wyth awr i ffwrdd o Cairo ac Alexandria lle mae mwyafrif y trafferthion.

“Rydyn ni’n teimlo, felly, fod teithio i Sharm el Sheik yn gwbl ddiogel ar hyn o bryd.”

Dyw’r Llywodraeth ddim wedi trefnu awyrennau argyfwng i gludo Prydeinwyr o’r wlad eto, yn wahanol i America, ond mae disgwyl i ryw 30 o Brydeinwyr adael yr Aifft ar awyrennau masnachol heddiw, ar ôl treulio’r noson ym Maes Awyr Cairo.

Mae rhai o’r twristiaid sydd wedi cyrraedd yn ôl o’r Aifft wedi beirniadu lefel staff y Swyddfa Brydeinig sydd ym maes awyr Cairo.

Gorfodwyd Bob Gooderick, 61, a’i wraig Carol, 62, o Rydychen, i gysgu ar lawr y maes awyr wedi i’w awyren BMI gael ei ohirio.

“Fe brynon ni ddarn o gardfwrdd gan ddyn yn y maes awyr fel nad oedd yn rhaid i ni gysgu ar y llawr,” meddai Bob Gooderick.

“Pan gyrhaeddon ni’r maes awyr doedd neb yno i’n helpu ni, a dim gwybodaeth. Cawson ni ein gadael yn gyfan gwbl ar ein pen ein hunain. Doedd dim cymorth consylaidd sydd ar gael.”

Danfonwyd ugain o staff consylaidd ychwanegol allan i’r Aifft gan y Swyddfa Dramor ddoe, i helpu’r naw oedd yno’n barod.